Nia Wyn Thomas (Llun: golwg360)
Mae merch o Sir Gaerfyrddin yn paratoi i fod y cynta’ yng Nghymru i dderbyn llawdriniaeth arbennig am gyflwr prin iawn sy’n effeithio ar ei system imiwnedd.

Mae Nia Wyn Thomas, 24, o Nantgaredig, yn diodde’ o glefyd granulomatous cronig, neu CGD, sy’n golygu bod celloedd yn y system imiwnedd yn cael trafferth gweithredu yn y ffordd y dylen nhw.

Mae’n gyflwr genetig prin, gyda chleifion yn llawer mwy tebygol o ddatblygu heintiau gwahanol o achos ei system imiwnedd gwan.

Teimlo fel “guinea pig

Er ei bod wedi gwneud cais i gael ei llawdriniaeth yn Llundain yn gyntaf, lle mae meddygon yn gwneud y llawdriniaeth “bob dydd”, cafodd Nia Wyn Thomas ei gwrthod a hynny, meddai, am fod meddygon yng Nghymru am gael bod y cynta’ i gyflawni’r driniaeth yr ochr yma i Glawdd Offa.

“Y rheswm bod fi ddim yn gallu cael e yn Llundain yw bod doctor yng Nghaerdydd wedi gwrthod [y cais] gan fod e’n gallu gwneud e, ond fi fydd y gynta’ yng Nghymru [i gael y llawdriniaeth],” meddai.

“Ro’n i’n really upset achos es i draw i weld y doctor yng Nghaerdydd ac roedd e’n gwybod ar y pryd bod e wedi gwrthod e, ond roedd e’n actio bod e ddim yn gwybod pam bod e wedi cael ei wrthod.

“Pan wnes i ffeindio mas gan ddoctor yng Nghaerfyrddin wedyn, ro’n i’n upset iawn. Fi wedi cael fy ngadael i lawr.

“Yn Llundain, mae hwn yn rhywbeth maen nhw’n gwneud bob dydd ond yng Nghaerdydd, fi’n mynd i fod yn guinea pig, dyna fel fi’n teimlo.”

Costio hyd at £250,000

O achos yr afiechyd, mae Nia Wyn Thomas wedi dioddef o glefyd Crohn’s ers roedd yn saith oed ac wedi cael sawl ymweliad i’r ysbyty.

Mae meddygon wedi gorfod cyflwyno cais ar ei rhan am y driniaeth, fydd yn costio rhwng £80,000 a £250,000, am nad yw’r llawdriniaeth yn dod dan y Gwasanaeth Iechyd.

Yn ôl Nia Thomas, mae angen iddi gael y llawdriniaeth o fewn blwyddyn gan ei bod wedi datblygu haint arall ond nad yw’r meddygon yn gwybod yn union beth sy’n bod.

Bydd y llawdriniaeth yn cynnwys creu system imiwnedd newydd drwy drawsblaniad mêr esgyrn, pythefnos o gemotherapi a 10 wythnos o gael ei chadw ar wahân i bawb arall er mwyn rhoi cyfle i’w system imiwnedd newydd gryfhau.

Edrych ymlaen at gael bod yn iach

Ar ôl byw gyda’r clefyd ers cael ei geni, mae Nia Wyn Thomas yn dweud eu bod hi’n edrych ymlaen at gael bod yn “iach” eto.

“Mae hyn yn mynd i newid fy mywyd, fi’n gwybod bod fi’n mynd i golli fy ngwallt i, fi naill ai’n mynd i ennill pwysau neu golli pwysau, ond fi’n fodlon gwneud e er mwyn cael bod yn iach.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i sylwadau Nia Wyn Thomas.