Mae doctoriaid yn Llundain wedi rhybuddio am beryglon meddyginiaeth amgen, wedi i blentyn awtistig ddiodde’ sgil-effeithiau difrifol ar ôl cymryd cymysgedd o dabledi oedd yn cynnwys fitaminau a sinc.

Mewn adroddiad yng nghylchgrawn y British Medical Journal, mae meddygon Ymddiriedolaeth Iechyd Barts yn Llundain yn dweud i’r bachgen fod yn rhwym ac yn cyfogi am dros dair wythnos ar ol cymryd tabledi oedd i fod i’w wneud yn iachach. Collodd 3kg o bwysau cyn iddo gael ei gludo gan y gwasanaethau brys i’r ysbyty.

Fe wnaeth doctoriaid ddiagnosio ei fod yn dioddef o lefelau uchel o galch yn y gwaed. Yr oedd teulu’r bachgen wedi cael eu cynghori i gymryd ychwanegiadau calcium, fitamin D, llaeth camel a sinc.

“Mae llawer o deuluoedd yn gweld y therapiau hyn yn ddewis naturiol saffach,” meddai’r meddygon yn y BMJ, “ond yn yr achos hwn, maen nhw’n gallu achosi sgil effeithiau difrifol sydd ddim yn cael ei adnabod o ganlyniad i ddiffyg goruchwiliaeth, cydnabyddiaeth a phrofiad.”