Pauline Cafferkey Llun: PA
Mae’r panel disgyblu, sy’n cynnal gwrandawiad i achos y nyrs o’r Alban a gafodd ei heintio ag Ebola, wedi cael eu cynghori i wrthod honiadau ei bod wedi ymddwyn yn anonest.

Ym mis Rhagfyr 2014, fe gafodd Pauline Cafferkey, 40 oed, ei heintio ag Ebola wrth weithio fel gweithiwr meddygol yn Sierra Leone.

Wedi hynny, fe gafodd y nyrs ei chyhuddo o gelu gwybodaeth am ei chyflwr gan ganiatáu i wiriadau is o’i thymheredd gael eu cofnodi wrth iddi ddychwelyd o’r wlad yng ngorllewin Africa i faes awyr Heathrow.

Gwrandawiad

Mae gwrandawiad deuddydd yn cael ei gynnal yng Nghaeredin gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth i asesu’r honiadau.

Nid oes manylion llawn am ei chyhuddiadau wedi eu rhyddhau, ond mae llefarydd ar ran y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi annog y panel i wrthod honiadau ei bod wedi ymddwyn yn anonest.

Dywed y llefarydd fod Pauline Cafferkey mewn cyfnod cynnar o’r firws ar y pryd, ac nad oedd ei gweithredoedd “wedi eu hysgogi gan anonestrwydd.”

Cefndir

Ar ôl gadael Sierra Leone, teithiodd Pauline Cafferkey i Lundain cyn mynd i’r Alban a chael gwybod bod Ebola arni.

Treuliodd bron i fis mewn uned arbennig yn ysbyty’r Royal Free yn Llundain.

Dychwelodd i’r ysbyty ddwywaith yn y misoedd a ddilynodd yn dilyn cymhlethdodau, ac roedd hi’n ddifrifol wael ar un adeg.