Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cymeradwyo cynlluniau i greu uned gofal dwys modern ar gyfer babanod sâl iawn.

Bydd yr uned newydd, gwerth £1.8m, yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan, gyda’r gobaith o’i agor erbyn 2018.

Mewn cyfarfod o’r Bwrdd heddiw, fe gymeradwyodd aelodau yr Achos Busnes Llawn dros ddatblygu’r uned.

Bydd yr achos nawr yn mynd at Lywodraeth Cymru am sêl bendith.

Cefndir

Roedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bwriadu israddio’r uned yn Ysbyty Glan Clwyd, a fyddai wedi golygu mai bydwragedd yn unig, ac nid meddygon, byddai wedi gweithio yno.

Ond cafwyd tro pedol yn dilyn ymateb chwyrn gan bobol leol a oedd yn poeni y byddai’r cynlluniau’n rhoi mamau beichiog a babanod mewn perygl os byddai rhywbeth yn mynd o’i le yn ystod yr enedigaeth.

Israddio Ysbyty Gwynedd?

Mae pobol Bangor wedi codi pryderon y bydd yr uned babanod yn Ysbyty Gwynedd yn cael ei israddio, yn sgil creu uned newydd yn Ysbyty Glan Clwyd.

Gallai hynny olygu y byddai’n rhaid i famau Bangor deithio i Ysbyty Glan Clwyd, 33 milltir i ffwrdd, os byddai problem yn digwydd yn ystod yr enedigaeth.

Does dim cadarnhad am israddio’r uned yn Ysbyty Gwynedd wedi dod gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.