Robbie Savage
Mae’r cyn pêl-droediwr rhyngwladol o Gymru, Robbie Savage, wedi cyhoeddi neges o gefnogaeth i ddigwyddiad arbennig yng Nghaerdydd heddiw sy’n codi ymwybyddiaeth am Ddementia.

Bwriad y digwyddiad sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas Alzheimers yw galw ar yr Aelodau Cynulliad newydd i gydnabod yr angen i greu ‘Cenedl sy’n Deall Dementia’ fel rhan o’u gwaith yn y tymor newydd.

Fe fydd hefyd cyfle i glywed mwy am waith yr elusen wrth greu ‘Cymunedau sy’n deall Dementia’ ar draws Cymru.

‘Gwahaniaeth mawr’

Yn 2012, collodd Robbie Savage ei dad i glefyd Pick, sy’n fath o ddementia, a dywedodd: “Dw i’n llysgennad balch o Gymdeithas Alzheimers ac yn falch o gefnogi’r cynllun pwysig hwn yng Nghymru.”

“Gan nad oes triniaeth i ddementia, mae adeiladu ‘Cymunedau sy’n deall Dementia’ yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobol sy’n byw gyda’r cyflwr,” ychwanegodd Robbie Savage.

Galw am strategaeth

Yn ôl yr elusen, mae 45,000 o bobol yn byw gyda Dementia yng Nghymru, ac mae disgwyl i hynny godi i 100,000 erbyn 2055.

“Mae’n holl bwysig ein bod yn datblygu ‘Cenedl sy’n deall Dementia’ sy’n cefnogi ac yn galluogi pobol wedi’u heffeithio gan ddementia i gael cymorth a chwarae rhan arwyddocaol yn eu cymunedau,” meddai Sue Phelps, Cyfarwyddwr Cymdeithas Alzheimers Cymru.

“Rhaid inni weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i sicrhau newid tymor hir go iawn,” meddai gan ddweud eu bod yn galw hefyd am strategaeth llawn adnoddau ar gyfer Dementia yng Nghymru.