Mae merched beichiog o Brydain sy’n bwriadu teithio i Dde America yn cael eu hannog i ailystyried eu cynlluniau ymysg pryder am y firws Zika.

Mae’r firws wedi lledu ym Mrasil, ac mae arbenigwyr iechyd yn rhybuddio y gallai ledaenu i bob un o gyfandiroedd America.

Mae’r firws yn gysylltiedig â namau geni mewn plant lle mae eu mamau wedi’u heintio yn ystod eu beichiogrwydd. Mae’r symptomau’n cynnwys brech, twymyn, llid yr amrannau a phen tost.

Mae tua 4,000 o fabanod i famau a gafodd eu heintio gan Zika ym Mrasil wedi’u geni â microseffali, cyflwr lle mae ymennydd y plentyn yn annatblygedig.

‘Ailystyried teithio’

Mae Canolfan a Rhwydwaith Cenedlaethol Iechyd Teithwyr yn annog merched beichiog i ailystyried teithio i ardaloedd lle mae’r firws wedi’i gofnodi.

Mae’r firws eisoes wedi’i ganfod mewn 21 gwlad, gan gynnwys Barbados, Bolifia, Brasil, Colombia, y Weriniaeth Ddominicaidd, Ecwador, El Salvador, Giana Ffrengig, Guadeloupe, Guatemala, Giana, Haiti, Honduras, Martinique, Mecsico, Panama, Paraguay, Puerto Rico, Saint Martin, Suriname a Venezuela.

Fe ddywedodd Sefydliad Iechyd y Byd ei bod hi’n bosib y gall y firws ledaenu i’r rhan fwyaf o gyfandiroedd America, heblaw am Ganada a Chile.

Rio 2016

Nid oes triniaeth na brechlyn i’r firws ar hyn o bryd, ac mae nifer o wledydd De America wedi galw ar ferched i ystyried cymhlethdodau’r haint cyn beichiogi.

Fe fydd Chwaraeon y DU yn rhoi eu briff cyntaf i’r cyfryngau heddiw ar gyfer Gemau Olympaidd a Pharalymaidd Rio de Janeiro yn ystod yr haf. Fe fydd disgwyl iddyn nhw ateb cwestiynau am gymhlethdodau’r firws ar y gemau.