Pauline Cafferkey
Mae cyflwr nyrs sy’n derbyn triniaeth am Ebola mewn ysbyty yn Llundain wedi gwaethygu, ac mae hi bellach mewn cyflwr difrifol.

Cafodd Pauline Cafferkey ei chludo i’r ysbyty yng ngogledd orllewin Llundain nos Wener ar ôl cael ei tharo’n wael yng Nglasgow.

Cafodd ei chludo o Glasgow i Lundain mewn hofrennydd fore Gwener.

Mae’r awdurdodau wedi nodi 58 o bobol a fu mewn cyswllt agos â’r nyrs, ac mae 40 ohonyn nhw – sy’n gyfuniad o weithwyr iechyd, teulu, ffrindiau a chydnabod – wedi cael cynnig brechlyn.

Cafodd hi wybod ym mis Rhagfyr ei bod hi’n dioddef o Ebola yn dilyn taith gydag elusen Achub y Plant i Sierra Leone.

Treuliodd fis yn yr ysbyty yn derbyn triniaeth, ond mae’n ymddangos bod olion o’r haint wedi aros yn ei chorff.

Mae ei theulu wedi cyhuddo meddygon o golli cyfle i ddarganfod ei bod hi’n dioddef o Ebola o hyd.

Aeth hi at feddyg teulu nos Lun, ond cafodd ei hanfon adref.

Dywedodd adroddiad ym mis Chwefror fod cyfarpar diogelwch yn gyfrifol am ledu’r haint yn ei chorff.

Enillodd hi wobr Pride of Britain ym mis Medi.