Cocên
Roedd gostyngiad yn nifer y bobol fu farw o ganlyniad i fod yn gaeth i gyffuriau neu gael eu gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru’r llynedd, er bod mwy nag erioed wedi marw wrth gyfuno ffigurau ar gyfer Cymru a Lloegr.

Roedd cynnydd sylweddol yn nifer y bobol fu farw o ganlyniad i gocên, tra bod nifer y marwolaethau o ganlyniad i gyffuriau gwrth-iselder wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers 15 mlynedd.

Cafodd 3,346 o farwolaethau o ganlyniad i wenwyn cyffuriau eu cofnodi yng Nghymru a Lloegr yn 2014, y nifer fwyaf ers i’r cofnod gael ei sefydlu yn 1993.

Roedd 39.9 o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau ym mhob miliwn o’r boblogaeth.

Dywed arbenigwyr fod argaeledd cyffuriau megis heroin a morffin wedi cyfrannu at y cynnydd.

‘Triniaeth wedi’i theilwra’ 

Roedd cynnydd o bron i 50% yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i gocên y llynedd o’i gymharu â’r flwyddyn gynt, a hynny’n bennaf am fod ffurf fwy pur – a pheryglus – o’r cyffur yn cael ei gynhyrchu erbyn hyn.

Roedd 517 o bobol wedi marw o ganlyniad i gyffuriau gwrth-iselder yn 2014, y nifer fwyaf ers 1999, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith pobol rhwng 40 a 69 oed.

Roedd cynnydd o ddau draean yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i heroin a/neu morffin rhwng 2012 a 2014, ac roedd 67 o bobol wedi marw o ganlyniad i gyffuriau o fath newydd sy’n cael eu galw’n “legal highs”.

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Iechyd San Steffan: “Er ein bod ni’n gweld llai o bobol bob blwyddyn yn defnyddio heroin, yn enwedig pobol ifanc, mae unrhyw farwolaeth o ganlyniad i gyffuriau’n drasiedi.

“Nod ein strategaeth cyffuriau yw helpu pobol i symud i ffwrdd o gyffuriau a chadw draw oddi wrthyn nhw am oes, ac fe fyddwn yn parhau i helpu awdurdodau lleol i gynnig triniaeth wedi’i theilwra i ddefnyddwyr.”