Mae tair canolfan ymchwil gwerth £30 miliwn  wedi cael eu cyhoeddi er mwyn ymchwilio i gyflwr dementia.

Dywedodd elusen dementia fwyaf y byd, Alzheimer’s Research UK, bod yr hwb ariannol am fod yn gymorth gwerthfawr i fynd i’r afael a’r “diffyg triniaeth effeithiol sydd ar gael i’r rhai sy’n dioddef o’r cyflwr.”

Bydd y canolfannau, sydd wedi’u lleoli ym mhrifysgolion Caergrawnt, Rhydychen a UCL yn Llundain, yn gartref i 90 o wyddonwyr fydd yn ceisio dod o hyd i ffyrdd newydd o wneud bywyd yn haws i’r 830,000 o bobol ym Mhrydain sy’n dioddef o ddementia.

Mae hi’n 12 mlynedd ers i’r driniaeth ddiwethaf ar gyfer y cyflwr gael ei drwyddedu ym Mhrydain.

Dywedodd cyfarwyddwr elusen Alzheimer’s Research UK, Dr Eric Karran: “Wrth weithio mewn prifysgolion ac ysbytai, ochr yn ochr â phobol sydd wedi’u heffeithio gan ddementia, mae ymchwilwyr wedi cael eu rhoi yn y llefydd gorau er mwyn dod o hyd i driniaeth go iawn i ddioddefwyr.”

Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd Jeremy Hunt: “Bydd y canolfannau hyn yn dod a gobaith newydd i bobol a dementia a hwb i’r rhai sy’n ceisio dod o hyd i iachâd iddo.”

Cyhoeddod  Alzheimer’s Research UK ddoe bod merched dros 60 oed ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o ddementia nag o gancr ar y fron ac mai dyma yw’r prif achos marwolaeth ymysg y categori oed yma.