Profi samplau gwaed am Ebola
Mae’r corff rhyngwladol Medecins Sans Frontières yn bwriadu cynnal treialon mewn tair canolfan Ebola yng ngorllewin Affrica i geisio dod o hyd i driniaeth addas.

Bydd y treialon yn cael eu cynnal gan dri phartner ymchwil, yn ogystal â Sefydliad Iechyd y Byd yn y gwledydd lle bu achosion o Ebola.

Bydd un o’r treialon yn cael ei drefnu gan Sefydliad Iechyd ac Ymchwil Feddygol yng ngwlad Guinea.

Bydd yr ail yn cael ei gynnal gan Sefydliad Meddygaeth Drofannol Antwerp yn yr un wlad, a dydy lleoliad y trydydd ddim wedi cael ei benderfynu eto.