Mae’r epidemig ebola yng ngorllewin Affrica yn gwaethygu, yn ôl pennaeth un elusen sy’n gweithio yno.

Dywedodd Justin Forsyth, prif weithredwr Achub y Plant, bod teimlad o “ofn a phryder” ar hyd a lled yr ardal.

Gwnaeth y sylwadau wrth iddo ymweld â Sierra Leone, lle mae’r elusen yn paratoi i gynnal canolfan driniaeth newydd sydd wedi cael ei hadeiladu gan Lywodraeth y DU.

‘Gwaethygu’

“Rwy’n meddwl bod pethau’n dal i waethygu,” meddai Mr Forsyth.

“Mae’n mynd i waethygu eto cyn i ni allu ei reoli. Rydym ni’n parhau i fod ar ei hôl hi.

“Rydym mewn ras yn erbyn amser. Mae ofn a phryder difrifol yma.”

Ychwanegodd ei fod wedi ei “ysbrydoli” o weld cymaint o feddygon rhyngwladol oedd yn fodlon peryglu eu bywydau eu hunain er mwyn ceisio helpu eraill.

5,000 wedi marw

Yn y cyfamser mae elusen arall, y Pwyllgor Argyfwng Trychinebau (DEC), wedi diolch i bobol Prydain am roi £4 miliwn tuag at ymdrechion i frwydro’r salwch ers iddyn nhw lansio apêl ddydd Iau.

Mae llywodraeth y DU wedi addo rhoi’r un faint â sy’n cael ei roi gan y cyhoedd hyd at £5 miliwn, sy’n golygu bod cyfanswm o £8 miliwn wedi cael ei godi hyn yn hyn.

Dywedodd llefarydd ar ran yr elusen eu bod nhw’n bwriadu cynyddu eu hymdrechion drwy gynnig cymorth i rai o’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio waethaf gan ebola.

Mae 5,000 o bobol wedi eu lladd gan y firws hyd yma ac mae dros 13,000 wedi cael eu heintio – ond mae rhai arbenigwyr yn dweud y gall y gwir niferoedd fod yn llawer uwch.