Elgan Davies yn derbyn ei wobr
Mae cyfieithydd yn y Cynulliad Cenedlaethol wedi derbyn gwobr gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru yn dilyn arholiadau mynediad y Gymdeithas.

Derbyniodd Elgan Davies, sy’n wreiddiol o Gricieth, Wobr Goffa Wil Petherbridge am yr ymgeisydd mwyaf addawol wrth gyfieithu i’r Gymraeg yn yr arholiadau aelodaeth sylfaenol.

Derbyniodd Elgan Davies y wobr gan Rhodri Glyn Thomas AC, sef Comisiynydd y Cynulliad sy’n gyfrifol am y Gymraeg.

Cafodd y wobr ei sefydlu yn 2007 ac mae’n cael ei gyflwyno er cof am gyn-ysgrifennydd y Gymdeithas ac arloeswr ym myd cyfieithu yng Nghymru, Wil Petherbridge.