Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ei beirniadu ar wefan gymdeithasol Twitter ar ôl cyhoeddi cyngor i bobol sy’n dymuno protestio yn erbyn Sports Direct.
Mae cwmni chwaraeon Mike Ashley wedi dod dan y lach yr wythnos hon ar ôl i arwyddion ymddangos oedd yn awgrymu bod y cwmni wedi gwahardd y defnydd o unrhyw iaith heblaw Saesneg yn ei siopau.
Ymddiheurodd y cwmni yn y pen draw, gan ddweud nad oedd yn fwriad ganddyn nhw wahardd y Gymraeg.
Daeth yr ymddiheuriad ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg, Meri Huws gyhoeddi ei bod hi am gynnal ymchwiliad.
Cyngor y Gymdeithas
Ddydd Llun, cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith lun ar eu tudalen Twitter, oedd yn dangos bwrdd gwyn ag arno gyfarwyddiadau.
Yn y llun, sy’n cynnwys cartŵn â chymeriad yn gwisgo’r ‘Welsh Not’, mae’r Gymdeithas yn gofyn, “Yn flin efo Sports Direct?”, gan roi’r cyfarwyddiadau canlynol:
1. Ewch i’r siop ym Mangor
2. Ewch ag eitem at y til
3. Wedi’r tilio, gwrthodwch yr eitem (gan egluro pam)
Ein cyngor i bobl am sut i ymdrin â Sports Direct #Steddfod2017 #hawliau pic.twitter.com/INY3UsulXq
— Cymdeithas yr Iaith (@Cymdeithas) August 7, 2017
Ond mae’r ymateb wedi cael ei feirniadu gan ei fod yn gweithredu yn erbyn staff y siop yn hytrach na’r cwmni.
Mae @Leusa yn dweud:
Ond y criw tu ôl y til ym Mangor sydd di denu sylw at yr annhegwch at y lle cynta. Pan eu trin nhw fel hyn?
— Leusa (@LeusaFflur) August 7, 2017
Ychwanega @anoracyracen:
Cytuno Leusa. Sai’n siŵr beth yw’r peth gorau i’w wneud. Ond gallai hyn annog staff Bangor i beidio â siarad mas yn y dyfodol.
— Iwan Rhys (@anoracyracen) August 7, 2017
Mae @YPwca yn gofyn am y staff:
Roedd y staff yn ddewr iawn. Dim nhw sy’n penderfynnu polisi chwaith. Beth yw pwynt bod yn flin hefo nhw? Y rheolwyr uwch sydd angen sylw.
— Bach (@YPwca) August 7, 2017
Mae Ben Screen, yr un oedd wedi tynnu sylw at yr arwydd yn y lle cyntaf, yn gofyn:
Wrth gwrs Hedd ond onid oes ffordd well? Onid y staff gododd y twrw yn y lle cyntaf? Pam neud eu diwrnod gwaith yn lletwith?
— Ben Screen (@BenAlunScreen) August 7, 2017
@MissFffiParr sy’n cynnig ateb posib, drwy awgrymu:
Beth am drio cynnal cyfarfod â’r bigwigs sydd â’r grym go iawn er mwyn codi ymwybyddiaeth, yn lle cosbi’r rheiny nath dynnu sylw at y peth
— Ffion Mair (@MissFfiParr) August 7, 2017
Ymateb y Gymdeithas
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Daeth pobl i’n stondin i holi beth y gallen nhw ei wneud i wrthwynebu Sports Direct. Mae’r awgrym ar y stondin yn dilyn cyfarfod byr o’n gwirfoddolwyr am sut i gynorthwyo pobol sy’n ddig am y sefyllfa.
“Mae ymddygiad gwarthus Sports Direct yn profi pwysigrwydd swydd Comisiynydd y Gymraeg – mae angen cryfhau ei rôl nid ei diddymu hi fel mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud.”
Protest
Yn y cyfamser, mae Lleuwen Steffan wedi cyhoeddi y bydd hi, 9Bach a Chôr y Penrhyn yn perfformio y tu allan i siop Sports Direct ym Mangor am 3.45pm heddiw “fel protest heddychlon yn erbyn polisi di-Gymraeg” y cwmni.