Siân Gwenllian (Llun o'i chyfri Twitter)
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon a llefarydd y Gymraeg y blaid, Siân Gwenllian wedi cyhuddo Sports Direct ym Mangor o “wahaniaethu” yn erbyn y Gymraeg.

Dywed AC Plaid Cymru Arfon fod y rheol ‘Saesneg yn unig’ yn dangos anwybodaeth o’r radd flaenaf, ar ôl arwyddion ymddangos yn eu siop ym Mangor yn mynnu bod staff yn siarad Saesneg yn y gweithle.

Mae’r polisi, meddai, yn un “sy’n gwahaniaethu a sarhaus”.

Cefndir

Daeth arwyddion i’r amlwg ddoe oedd yn awgrymu bod staff y siop ym Mangor wedi’u gwahardd rhag siarad Cymraeg.

Roedd yr arwydd, sy’n cael ei rannu ar wefan Twitter, yn dweud mai “Saesneg yw iaith swyddogol y cwmni”, a bod “rhai aelodau staff wedi bod yn siarad â’i gilydd mewn ieithoedd ac eithrio Saesneg”.

Mae’r nodyn yn “atgoffa staff fod rhaid iddyn nhw siarad Saesneg â’i gilydd bob amser” er mwyn i’r “holl staff ddeall ei gilydd”.

Mae’r polisi, meddai’r cwmni, yn cynnwys “sgyrsiau personol yn ystod oriau gwaith”.

Wrth gyfiawnhau’r polisi, dywed yr arwydd fod siarad unrhyw iaith ac eithrio Saesneg yn achosi “amryw o beryglon… gan gynnwys iechyd a diogelwch”, a’i fod “er lles pawb fod staff yn deall ei gilydd bob amser”.

Serch hynny, dywed y cwmni y gall sgyrsiau preifat rhwng aelodau staff ar y safle y tu allan i oriau gwaith fod “yn newis iaith” y staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni wrth golwg360 fod yr arwydd yn “fwy perthnasol i’w siopau yn Lloegr na Chymru”.

Mynnu cael ymddiheuriad

Yn dilyn y newyddion bod Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gomisiynydd y Gymraeg i ymchwilio i’r mater, mae Siân Gwenllian wedi mynnu cael ymddiheuriad gan y cwmni.

Dywed fod y polisi yn “dangos anwybodaeth o’r radd flaenaf ” o natur cymdeithasol a diwylliannol Bangor a’r ardal.

Mewn datganiad, dywedodd Siân Gwenllian: “Mae’r llythyr mae staff siop Sports Direct store ym Mangor wedi ei dderbyn yn datgelu polisi iaith sy’n sarhaus.

“Mewn ardal fel Bangor lle mae nifer uchel o siaradwyr Cymraeg, mae’n debygol iawn y byddai polisi o’r math yma yn gwadu hawl aelodau staff i sgwrsio yn eu hiaith ei hunain.

“Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o weithredoedd dilornus gan Sports Direct – cwmni sydd eisioes wedi magu enw drwg gan sgandalau ynglyn a chyflogau isel a gwahaniaethu ar sail rhyw.”

Amddiffyniad ‘ddim digon da’

Wrth ymateb i amddiffyniad Sports Direct fod yr arwyddion yn “fwy perthnasol i Loegr na Chymru”, ychwanegodd Siân Gwenllian: “Mae Sports Direct wedi ceisio amddiffyn eu safbwynt – ac wedi methu. Dydy hyn ddim digon da.

“Mae angen i’r cwmni gyhoeddi ymddiheuriad ffurfiol i’w staff a’i gwsmeriaid, llawer fydd yn gresynu at y digwyddiad yma.

“Mae’r ffaith fod Sports Direct yn ceisio cyflwyno polisi o’r math mewn ardal amlieithog fel Bangor yn datgelu anwybodaeth dwfn y cwmni o’r ardal a’i wead cymdeithasol a diwylliannol.

“Byddaf yn cyflwyno cwyn ffurfiol i berchennog Sports Direct a byddwn yn annog unrhyw un sy’n pryderu am degwch a chydraddoldeb yn y gweithle i wneud hynny hefyd.”