Mae un o gyn-olygyddion papur newydd Y Cymro wedi cynddeiriogi cymaint gyda safon Cymraeg rhai o’r swyddogion fu yn cyhoeddi canlyniadau’r etholiad cyffredinol, nes ei fod yn galw am ‘fynd yn ôl i’r hen arferiad o gyhoeddi’r canlyniadau yn uniaith Saesneg’.

Mewn llythyr yn Y Cymro heddiw, mae William H Owen yn gresynu at safon y Gymraeg ar noson yr etholiad:

‘Mewn mwy nag un lle cyhoeddwyd mai merch a etholwyd pan oedden nhw’n golygu dyn. Roedd y gwryw wedi ‘ei hethol’ myn uffach i gan ei wneud yn gawlach llwyr cael rhywun yno o gwbl yn cyhoeddi’r fath wiriondeb… Mae troi enillydd o ddyn yn ferch yn sen ar ei fodolaeth’

Yn ôl y cyn-newyddiadurwr profiadol nid yw’r cyhoeddiadau Cymraeg ar noson etholiad ‘yn werth eu cael os yw safon iaith y cyfieithiad a’r cyfieithydd a’r cyhoeddwr mor gythreulig o wael’.

Mae William H Owen wedi trafod y mater ymhellach gyda golwg360.

“Mae dwyieithrwydd yn iawn os ydyn nhw’n rhoi parch i’r ddwy iaith cystal â’i gilydd,” meddai.

“Ond os dydych chi ddim yn medru dweud y canlyniadau’n iawn yn Gymraeg – mae hynny’n gwneud sbort am y Gymraeg a’r person sydd wedi’i ethol.

“Mater o safon ydy o i ddweud y gwir, mae’n ddigon hawdd cael cydraddoldeb. Ond mae cydraddoldeb yn golygu bod rhaid cael rhyw fath o safon i’r ddwy iaith yr un pryd … Pa bwrpas sydd yna mewn cydnabod iaith os nad yw’n gywir yn y pendraw?”

Ai ‘Pidgin Welsh’ yw dyfodol y Gymraeg?

Hefyd mae cyn-Olygydd Y Cymro yn pryderu mai “Pidgin Welsh” fydd y norm yn y dyfodol.

Mae William H Owen yn cyfaddef fod ei deulu ei hun yn euog o “ddilyn chwiw’r oes” gan siarad bratiaith ar adegau, ac yn derbyn fod pobol wastad wedi siarad Cymraeg gwallus.

Er hynny, mae’r cyn-newyddiadurwr yn pryderu fod cyflwr yr iaith yn “waeth yn yr oes bresennol”.

“Mae taflu idiomau a dywediadau Saesneg [i sgwrs] yn gyson barhaus – wel, oes yna bwrpas i’r iaith os ydy hynna’n digwydd?” meddai wrth golwg360.

“Ydy hi werth cadw iaith os mai iaith gymysg yw hi?

Pidgin Welsh ydy hi yn y diwedd. Dyna’r duedd, fel mae pethau’n dechrau mynd. Pobol yn fwy llac o ran y defnydd o Gymraeg ac yn cymysgu dwy iaith wrth siarad o hyd. Dw i ddim yn siŵr os oes yna ddyfodol i iaith fel yna o gwbl.”