Dewi Pws
Mae’n rhannu ei enw cynta’ gyda nawdd sant Cymru, ond roedd Dydd Gŵyl Dewi yn fwrn ar y cyfansoddwr a’r actor, Dewi Pws, yn ystod ei gyfnod yn yr ysgol ramadeg yn Abertawe.

Erbyn heddiw, mae’n byw ym Mhen Llŷn ac yn mwynhau gwneud popeth tros ei wlad a’r iaith – fel y mae’n egluro heddiw wrth golwg360.

Yn y fideo hwn, mae Dewi Pws yn rhannu rhai o’r “pethau bychain” sydd mor bwysig i bob Cymro – nid ar Fawrth y cyntaf yn unig, ond trwy’r flwyddyn.