Llun: Llywodraeth Cymru
Mae cyfres o flogiau gan yr Athro Roger Scully o Brifysgol Caerdydd yn dangos fod “mwyafrif o bobol yng Nghymru” am gefnogi’r Gymraeg.

Daw hyn wrth iddo grynhoi ffigurau Astudiaeth Etholiad Cymreig 2016 lle cymerodd 3,272 o bobol Cymru ran yn yr arolwg ym mis Mawrth eleni.

Yn ôl Roger Scully, “mae’n un o’r clichés yn y bywyd Cymreig fod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth sy’n hollti pobol. Mewn sawl agwedd gallai hynny dal i fod yn wir. Ond nid drwy’r cyfan. Mae’r dystiolaeth sy’n cael ei chyflwyno yn y ddau flog yma yn dangos bod mwyafrif clir o bobol Cymru yn cymeradwyo cefnogaeth i’r Gymraeg,” meddai.

“Maen nhw’n gwrthod y syniad fod yr iaith yn ‘niwsans’ ac y byddai’n well hebddi.”

Yr arolwg

Roedd tri datganiad yn rhan o’r arolwg, sef:

  • ‘Mae’r iaith Gymraeg yn niwsans; byddai Cymru’n well hebddi’
  • ‘Dylai mwy cael ei wneud i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith fyw’
  • ‘Mae’r iaith Gymraeg mewn argyfwng sy’n cyfiawnhau mesurau eithafol i’w hamddiffyn’.

Cafodd yr atebion eu dosbarthu yn ôl gallu’r bobol i siarad Cymraeg – sef siaradwyr rhugl, rhai sy’n meddu rhywfaint a rhai nad sy’n siarad Cymraeg.

Fe wnaeth yr arolwg hefyd ofyn pa blaid wleidyddol roedd y bobol yn ei gefnogi a chymharu hyn â’u cefnogaeth i’r Gymraeg.

Yn ôl Roger Scully, mae’r canlyniadau’n dangos fod cefnogwyr Plaid Cymru’n fwy tueddol o gefnogi’r Gymraeg, ond nad oedd “agendor” mawr rhwng y pleidiau eraill.

“Rydym yn gweld mwyafrif o gefnogwyr o’r holl bleidiau yn gwrthod y datganiad fod yr iaith Gymraeg yn niwsans” meddai Roger Scully.

Mae modd darllen blog Roger Scully a chraffu ar y canlyniadau’n llawn yma.