Huw Brassington ar gefn ei feic
Mae un o gylchgronau ffitrwydd mwya’ poblogaidd gwledydd Prydain wedi cyhoeddi erthygl Gymraeg ar ei wefan am y tro cynta’ erioed.

Mae cylchgrawn Outdoor Fitness wedi bod yn dilyn hynt a helynt Huw Jack Brassington wrth iddo deithio rownd y byd yn rhoi tro ar rai o rasus anodda’r byd.

Un o’r rasys hynny oedd The Pioneer – ras feicio mynydd yn Seland Newydd oedd yn para am saith diwrnod, yn teithio bron i 600km ac yn dringo bron i ddwywaith uchder Everst.

Yn Saesneg mae holl gynnwys Outdoor Fitness fel arfer ond mae golygyddion y wefan wedi penderfynu rhoi llwyfan i erthygl Gymraeg ar gais yr athletwr 31 oed o Landwrog.

Nid yr ola’…

“Nid pawb fysa’n cytuno hefo’r syniad o gael y Gymraeg allan yna i bobol sydd efallai erioed wedi clywed amdani,” meddai Huw Brassington.

“Diolch iddyn nhw am fod mor gefnogol ac am fod mor barod i drio rhywbeth newydd. Efo digon o gefnogaeth, dw i’n gobeithio mai dim hon fydd yr ola’ chwaith.”

Mae cylchgrawn Outdoor Fitness yn gwerthu tua 36,000 copi y mis.