Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn datblygu maes llafur newydd ar gyfer rhaglenni addysgu Cymraeg i Oedolion.

Mae’r cwricwlwm newydd wedi’i ddatblygu ar sail fframwaith dysgu ieithoedd Ewrop.

Ac o hyn hyd fis Chwefror, mae’r Ganolfan yn awyddus i glywed barn am y cynllun wrth iddyn nhw gynnal ymgynghoriad.

Galw am ymateb

“Am y tro cyntaf erioed bydd un cwricwlwm cenedlaethol yn sail ar gyfer holl weithgareddau’r maes,” meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Strategol y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

“Bydd y cwricwlwm newydd yn arwain at lunio adnoddau newydd a chyffrous, gan gynnwys rhaglenni digidol rhyngweithiol.  Rydym yn edrych ymlaen at drafod sut gall y cwricwlwm gyfrannu at ddatblygiad y continwwm ieithyddol yng Nghymru.”

Mae modd darllen y cwricwlwm yma, ac ymateb iddo fan hyn cyn Chwefror 3, 2017.

Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yw’r corff sy’n gyfrifol am ddarpariaeth addysgu Cymraeg i Oedolion, lle mae 11 o sefydliadau yn gweithredu fel rhan ohono ar draws Cymru.