Sergey Brin gyda'r sbectol newydd yng nghynhadledd Google 2012
Ein blogiwr technegol, Bryn Salisbury sy’n trafod datblygiad cyffrous diweddaraf cwmni Google, sef y Google Glass.

Yn hwyrach heddiw yn San Fransisco, bydd Google yn darfod eu cynhadledd ‘IO’. Cynhadledd ydy hon sy’n rhoi cyfle i ddatblygwyr, a’r cyhoedd cael syniad o lwybr datblygiad systemau Google dros y flwyddyn nesaf, a gweld beth fydd y eu platfform technoleg nesaf.

Bu llawer o sôn am y fersiwn nesaf o’r system gweithredu Android (Jelly Bean) a dyfeisiadau diddorol fel y Nexus 7 a chystadleuaeth ar gyfer Apple yn y ffurf y Nexus Q (ond gan fod y peth yn costio bron i $300, mae’n annhebygol o gael llawer o bobl yn dewis hwnnw dros yr Apple TV am $99).

I mi, y peth mwyaf diddorol oedd y ‘Project Glass’, sef dyfais mae Google wedi bod yn siarad amdano ers amser maith. Maen nhw’n edrych fel pâr o sbectols haul, ond wedi eu cysylltu i’r we. Bydd y ddyfais yn galluogi’r person sy’n eu gwisgo i dynnu lluniau o’r sbectol, neu ddarlledu’r camera i’r we trwy Google+ Hangout.

Yn ystod y gynhadledd, dangosodd Google bobl yn neidio allan o awyren ar barasiwt, gan ddarlledu’r cyfan ar y we, fel y gwelwch chi yn y fideo isod…

Perygl i breifatrwydd

Mae’r dechnoleg yn edrych yn anhygoel i ddweud y gwir, a dwi’n eithaf hoff o weld ffurf newydd o weithio gyda thechnoleg. Da ni’n debygol o weld dros y blynyddoedd nesaf bod mwy a mwy o gwmnïau yn ceisio datblygu ffurf newydd i ni ddefnyddio ein dyfeisiau (Apple hefo Siri, Google gyda’i Goggles a Microsoft hefo’r Kinect), a’r her fydd ceisio gweld pa dechnoleg sy’n gweithio orau.

Yr unig nodyn drwg i’w gofio ydy hyn – gyda datblygiad technoleg fel ’ma, bydd pawb sy’n gwisgo’r dechnoleg ’ma yn gallu recordio trwy gydol yr amser, lle bynnag maen nhw’n mynd. Gyda hyn, mae’r syniad o breifatrwydd yn newid yn llwyr.

Lle’r oedd hi’n weddol amlwg o’r blaen os bod rhywun yn eich recordio chi, yn fuan iawn, bydd hi bron yn amhosib i chi wybod i sicrwydd os ydych ar ben eich hun, neu os oes 100,000 o bobl yn gwylio ar YouTube!

Wedi dweud ’ny hefyd, bydd technoleg fel ’ma hefyd yn ei gwneud hi’n haws i ohebwyr a blogwyr gyfathrebu â’r byd. Dychmygwch os fysa technoleg o’r fath ’ma ar gael ar y strydoedd yn Syria … bysa’r byd yn gallu gweld yn union beth sy’n mynd ymlaen.

Bydd Google yn rhyddhau’r ddyfais i ddatblygwyr dros y misoedd nesaf, a’r disgwyl yw bydd y ddyfais ar gael i’r cyhoedd hwyrach yn 2013. Dwi’n sicr yn edrych ymlaen.

Mae Bryn Salisbury’n gic Cymraeg yn Llundain, sylwebydd technoleg, trydarwr a podledwr. Gallwch ddarllen rhagor o feddyliau Bryn ar ei flog personol.