Mymi o'r Aifft
Mae cyn-yrrwr tacsi wedi caniatau i’w gorff gael ei droi yn fymi- y dyn cyntaf ers 3,000 o flynyddoedd i gael ei wneud yn fymi fel yr hen Pharoaid.

Bydd gwylwyr teledu yn cael gweld Alan Billis yn cael ei droi’n fymi dros gyfnod o fisoedd, wrth i’w gorff gael ei gadw mewn dull a ddefnyddiwyd gan yr hen Eifftwyr ar Tutankhamun.

Roedd Alan Billis wedi bod yn dioddef o ganser pan wirfoddolodd i ymgymryd â’r driniaeth – sydd wedi bod yn cael ei gynllunio gan wyddonwyr ers blynyddoedd lawer.