Mae’r gŵr busnes yr Arglwydd Sugar wedi beirniadu brand BlackBerry heddiw ar ôl i ddefnyddwyr eu ffonau wynebu problemau am y trydydd diwrnod yn olynol.

Mae’n debyg bod y broblem yn golygu nad yw miliynau o bobl yn gallu anfon e-bost na syrffio’r we.

Cynyddu mae’r feirniadaeth o Research in Motion (RIM) – y cwmni tu ôl i BlackBerry ers i’r problemau technegol ddod i’r amlwg tua 11am ddydd Llun.

Dywedodd yr Arglwydd Sugar ar Twitter: “Os mai fy nghwmni i oedd hwn, mi fyswn i wedi datrys y broblem erbyn hyn.”

Mae defnyddwyr hefyd yn gandryll gan nad yw’r cwmni wedi ceisio esbonio beth yw’r broblem a phryd y bydd yn cael ei datrys.

Fe ddywedodd RIM eu bod nhw’n ymdrechu’n galed i fynd trwy bentyrrau o ebyst er mwyn ceisio datrys y broblem, sydd wedi amharu  ar y gwasanaeth yn Lloegr, y Dwyrain Canol, Affrica, India, yr Unol Daleithiau a rhannau o America Ladin.