Mae Chwaraeon.Caerdydd wedi lansio tudalen gwe newydd ar y wefan rhwydweithio cymdeithasol, Facebook.

Bydd yr adnodd newydd yn golygu y gall pobl yn ardal Caerdydd gael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau Chwaraeon.Caerdydd a bydd yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd gan y tîm.

Mae hefyd yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr Facebook ryngweithio â’i gilydd a thîm datblygu chwaraeon y Cyngor drwy bostio eu sylwadau a’u lluniau eu hunain. Bydd hyn yn eu galluogi i hyrwyddo eu clwb eu hunain a dysgu am grwpiau chwaraeon eraill yn yr ardal.

Mae Chwaraeon.Caerdydd yn canolbwyntio ar wella’r gwaith o ddatblygu chwaraeon ar lawr gwlad mewn ysgolion, clybiau a chymunedau.

Nod y rhaglen yw gwella bywydau pobl Caerdydd drwy glybiau, hyfforddi a chystadlu gan ganolbwyntio ar blant a phobl ifanc.

Mae’n dibynnu ar ymrwymiad hyfforddwyr a gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u hymdrech i roi cyfleoedd chwaraeon i bobl o bob oedran a gallu a sicrhau llwyddiant parhaus y clybiau.

Maent yn annog plant i gymryd rhan yn un o’r 350,000 o gyfleoedd yng Nghaerdydd fel bod chwaraeon yn dod yn brofiad gydol oes, ac mae’n ddinas yn ymfalchïo ei bod wedi cael Marc Ysbrydoli Llundain 2012 ar gyfer ei rhaglen wirfoddoli.

Dywedodd yr Aelod Gweithredol dros Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant y Cyng Nigel Howells: “Mae Facebook yn ffordd fodern a llwyddiannus i bobl gyfathrebu.

“Daw tudalen cefnogwyr Chwaraeon.Caerdydd â gwybodaeth ddiddorol wedi’i diweddaru i bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon mewn ffordd nad oedd yn bosibl gynt.

“Nod yr adnodd yw cyrraedd mwy o bobl o oedrannau gwahanol fel y gallant ddysgu a chael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd chwarae a gwirfoddoli yn y ddinas yn ogystal â chynnwys pobl yn y misoedd cyffrous sy’n rhagflaenu Llundain 2012.”

I fynd i dudalen Facebook Chwaraeon.Caerdydd ewch i http://www.facebook.com/sport.cardiff