Mae Llywodraeth Prydain yn lansio rhan cynta’ buddsoddiad o £246 miliwn i wella technoleg batris trydan.

Y nod, medden nhw, yw fod gwledydd Prydain yn arwain y byd o ran cynllunio, datblygu a chynhyrchu mathau newydd o fatris.

Fe fydd Her Faraday – sydd wedi ei henwi ar ôl un o arloeswyr trydan – yn para pedair blynedd gan wahodd cynigion am fuddsoddiadau.

Arbedion mawr

Y gred yw y bydd rheolau newydd ynghylch storio a defnyddio trydan yn arwain at arbedion mawr i ddefnyddwyr, gyda thechnoleg batris yn rhan allweddol o hynny.

Mae Her Faraday yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth Prydain a gafodd ei lansio ynghynt eleni mewn Papur Gwyrdd.

Y nod, meddai’r Ysgrifennydd Diwydiant Greg Clarke, yw cael gwahanol sectorau i gydweithio – gan gynnwys diwydianwyr, gwyddonwyr a llywodraeth.