Mae dau ddyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â chynllwyn rhyngwladol honedig i hacio rhwydwaith Microsoft.

Fe wnaeth ditectifs gynnal cyrch ar ddau dŷ yn Swydd Lincoln a Bracknell ddydd Iau, ac arestio’r ddau ddyn.

Cafodd dyn 22 oed o Swydd Lincoln ei arestio ar amheuaeth o gael mynediad at gyfrifiadur heb ganiatâd a chafodd y dyn 25 oed o Bracknell ei arestio am droseddau yn ymwneud â chamddefnyddio cyfrifiadur.

‘Grŵp rhyngwladol’

Dywed y Ditectif Sarsiant, Rob Bryant, o adran troseddau seiber Uned Troseddau wedi’u Trefnu y De Ddwyrain, eu bod yn gweithio’n agos gydag uned yn Nwyrain Canolbarth Lloegr, tîm seiber Mircrosoft, y FBI, EUROPOL ac Uned Troseddau Seiber yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol.

“Mae’r grŵp hwn ar waith ledled y byd ac felly mae’r ymchwiliad yn cael ei gydlynu gyda’n partneriaid amrywiol,” meddai.

“Rydym wedi arestio dau yn y Deyrnas Unedig bore ‘ma ac wedi mynd â sawl ddyfais. Dyma gamau cyntaf yr ymchwiliad a byddwn yn gweithio gyda’n partneriaid i sicrhau nad oes gan droseddwyr seiber le i guddio.

“Mae’n rhy gynnar i ddyfalu pa wybodaeth y mae’r grŵp wedi cael, fodd bynnag, ar ôl siarad gyda Microsoft, gallwn gadarnhau nad ydyn nhw wedi cael mynediad at wybodaeth gwsmeriaid.

“Fe gyflawnwyd y troseddau rhwng mis Ionawr 2017 a mis Mawrth 2017.”

Mae’r ddau ddyn sydd wedi’u harestio yn parhau i fod yn y ddalfa.