Mae mudiad gwrth-niwcliar ym Môn yn dweud mai mater hawdd iawn yw datrys y ffrae ynglyn â chodi peilonau ar draws yr ynys – sef wrth beidio â chodi atomfa newydd Wylfa B.

Ddechrau’r wythnos hon, fe bleidleisiodd cynghorwyr yn erbyn cynlluniau’r Grid Cenedlaethol i godi llwybr newydd o beilonau, gan ffafrio’r syniad o osod y ceblau trydan dan-ddaear.

Ond mae mudiad PAWB (Pobol Atal Wylfa B) wedi mynd yn bellach, trwy ddweud mai gwrthod y syniad o godi dau adweithydd dwr berwedig newydd ar safle’r Wylfa sydd angen.

“Mae ynni niwclear yn hen ffasiwn, budr, peryglus, eithriadol o ddrud a bygythiol i iechyd dynol,” meddai Dylan Morgan o’r mudiad PAWB.

“Mae’n ddiddorol nodi bod pennaeth presennol a chyn-bennaeth y Grid Cenedlaethol wedi datgan yn gyhoeddus na ddylid bwrw ymlaen gyda system cynhyrchu trydan o orsafoedd mawr niwclear ar safleoedd arfordirol ymhell o ganolfannau poblogaeth.”