Llun PA/PNAS
Os ydy rhew yn parhau i doddi ar yr un cyflymdra ac y mae heddiw, gall rhew’r doddi digon i longau deithio dros begwn y gogledd erbyn 2050.

Dyma yw neges gwyddonwyr o Brifysgol California yn Los Angeles, sydd wedi astudio canlyniadau posib o rew yn toddi.

Mewn ymchwil a gafodd ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn heddiw, mae’r gwyddonwyr yn disgwyl i’r rhew fod mor denau y bydd llongau yn gallu torri llwybr syth drwyddo, o fôr yr Iwerydd i’r môr Tawel.  A hynny mor fuan â’r flwyddyn 2050.

Defnyddiodd yr ymchwilwyr rhaglen gyfrifiadurol i ddangos llwybrau posib pan fydd rhew yr Arctig wedi toddi, a dangosodd y byddai modd i longau arferol groesi ar hyd y pegwn.

Hwylio dros y Pegwn

Un o awduron y gwaith yw’r Athro Laurence Smith:

“Does neb wedi siarad am hwylio dros begwn y gogledd o’r blaen, mae hyn yn ddarganfyddiad hollol annisgwyl.

“Does dim bwys pa lefel o allyriad carbon sy’n cael ei ystyried, erbyn canol y ganrif byddwn ni wedi pasio pwynt pwysig iawn lle mae’r rhew ddigon tenau i alluogi llongau i fynd lle fynnen nhw.”

Er y goblygiadau amgylcheddol, mae’r ymchwil yn dangos y byddai teithio dros yr Arctig yn golygu siwrne 20% yn fyrrach na theithio ar hyd arfordir Rwsia ar fôr y gogledd, a bydd llwybrau sy’n mynd ar hyd mor y gogledd yn lle drwy gamlas Suez 40% yn fyrrach.

Angen rheolau

Ond, mae’r ymchwilwyr hefyd wedi rhybuddio y bydd mwy o ryddid i longau yn galw am fwy o reolau ar gwmnïau cludiant.

Gall llwybr clir ar arfordir Canada ail-ddechrau ffrae gyda’r Unol Daleithiau am bwy sydd yn berchen y môr.  Mae’r ymchwil hefyd yn dweud y bydd angen rheoli effaith y llongau ar yr amgylchedd a diogelwch y llongwyr, os oes mwy o ryddid dros foroedd y byd.