Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu gostwng y lefel yfed a gyrru yno cyn gynted ag sy’n bosibl medd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder, Kenny MacAskill.
Bydd y lefel newydd o 50mg o alcohol i bob 100ml o waed yn ddeddf erbyn diwedd y flwyddyn meddai.
Mae gan y llywodraeth yr hawl i wneud hyn o dan Deddf yr Alban 2012 er bod y llywodraeth yno wedi bod eisiau gostwng y lefel ers tro.
“Rydyn ni’n credu yn gryf y bydd gostwng y lefel yfed a gyrru yn achub bywydau ac mae tystiolaeth led-led Ewrop yn profi bod marwolaethau ar y ffyrdd sy’n gysylltiedig efo alcohol yn gostwng yn syfrdanol pan mae’r lefel hefyd yn cael ei ostwng,” meddai Mr MacAskill.
Mae ymgyrchwyr yn erbyn yfed a gyrru wedi croesawu’r newyddion er bod rhai yn dweud y bydd yna ddryswch o hyn allan am ba lefel sydd yn ddiogel o gwbl.
Dywedodd llefarydd ar ran yr Ymgyrch yn Erbyn Yfed a Gyrru, Carole Whittingham ei bod hi’n cenfogi’r cam gant y cant.
“Mae’r Alban wedi cydnabod bod ganddyn nhw broblem. Mi faswn i’n falch o weld llywodraeth San Steffan yn gwneud yr un peth,”meddai.
Fe wnaeth Gweriniaeth Iwerddon ostwng y lefel i 50mg llynedd, gan osod lefel o 20mg i ddysgwyr, gyrrwyr sydd newydd basio’u prawf a gyrrwyr profesiynol.
Mae Gweinidog yr Amgylchedd yng Ngogledd Iwerddon, Alex Attwood wedi dweud ei fod yn gobeithio cyflwyno deddfwriaeth i ostwng lefelau yno erbyn yr hydref.
50mg i bob 100ml o ddwr ydi’r lefel yn y rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd.