Mae heddlu wedi dal saith o bobol y maen nhw’n meddwl sydd yn dod o Eritrea o dan amheuaeth o geisio dod i mewn i wledydd Prydain yn anghyfreithlon ar long nwyddau.

Cafodd pum dyn, un ddynes a phlentyn eu darganfod yn Teesport, dinas Middlesborough, am 7yh nos Lun (Mawrth 25).

Mae’r plentyn yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol.

Dywed Border Force, asiantaeth y Swyddfa Gartref, y bydd achosion y saith yn cael eu trin “yn unol â rheolau mewnfudo”.