Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi heddiw y bydd y diwydiant sy’n cynhyrchu anifeiliaid a bwydydd acwatig yng Nghymru yn cael hwb ariannol gwerth £1.4m gan yr Undeb Ewropeaidd.

Nod y prosiect, SmartAqua, yw ceisio annog busnesau Cymru yn y sector ‘dyframaethu’ (acuaculture) i wneud mwy o ddefnydd o uwch-dechnoleg, ynghyd â datblygu cynnyrch a gwasanaethau arloesol ar gyfer y farchnad arbenigol.

Dros y pedair blynedd nesaf, fe fydd busnesau yn cael y cyfle i gydweithio â gwyddonwyr o’r Ganolfan Ymchwil Ddyfrol Gynaliadwy (CSAR), Prifysgol Abertawe, er mwyn:

  • canolbwyntio ar ddulliau glanach o gynhyrchu pysgod;
  • defnyddio pysgod ar gyfer ymchwil biofeddygol a’r farchnad acwaria;
  • datblygu bwydydd pysgod fferm a chynnyrch ar gyfer fferylliaeth sy’n lleol ac yn ecogyfeillgar.

Mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y prosiect hwn yn gymorth i ehangu’r diwydiant yng Nghymru, gyda busnesau yn y gogledd, de-orllewin a chymoedd y de yn elwa ohono.

Hwb economaidd i ardaloedd gwledig?

“Bydd y cynllun hwn yn datblygu ymchwil wyddonol i helpu busnesau i ddatblygu diwydiant dyframaethu Cymru ymhellach,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’n sector arbenigol sydd â’r potensial i ddarparu cyfleoedd economaidd pwysig, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.”