Mae cyn-gynghorydd UKIP wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio ei wraig.

Mae Stephen Searle, 64, wedi’i gyhuddo o ladd Anne Searle, 62. Fe ddaethpwyd o hyd iddi yn anymwybodol mewn cyfeiriad yn Stowmarket, Suffolk am 10.30yh ddydd Sadwrn diwethaf (Rhagfyr 30).

Fe gyhoeddodd y parafeddygon fod y wraig wedi marw yn y fan a’r lle. Fe gynhaliwyd prawf post-mortem ddydd Sul, ac fe fu’n rhaid cynnal profion pellach.

Heddiw, fe ymddangosodd Stephen Searle gerbron ynadon yn Ipswich trwy gyfrwng linc fideo o orsaf heddlu Bury St Edmunds. Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys y Goron Ipswich fory (dydd Mercher).

Ni chafodd ple ei chofnodi.

Fe fu Stephen Searle yn cynrychioli wardStowmarket South ar Gyngor Sir Suffolk rhwng 2013 a 2017.