Mae’r Unol Daleithiau yn “ail-greu Fietnam” mewn beth bynnag hanner dwsin o lefydd ledled y byd heddiw.

Dyna rybudd Aleida Guevera, merch y chwyldroadwr Che Guevara, ar ei hymweliad â thref Dinbych neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 7).

Mewn araith a barodd ychydig dan awr, ond heb enwi Donald Trump unwaith o flaen cynulleidfa o dros ddau gant o bobol yn Neuadd y Dref, dywedodd hefyd bod America yn euog o ragrith ac o gelwydd – a bod angen i bawb ddechrau amau yr hyn y maen nhw’n ei weld ar y newyddion.

“Roedd Che [Guevara] yn arfer dweud bod angen i ni ail-greu Fietnam ym mhob cornel o’r byd er mwyn gwrthsefyll agweddau America,” meddai Aleida Guevara, gan gyfeirio at y ffaith bod y rhyfel hwnnw yn cael ei alw’n aml yn Rhyfel Gwrthsefyll America, rhwng Tachwedd 1, 1955 a chwymp Saigon ar Ebrill 30, 1975.

“Ond heddiw, mae America yn gwneud hynny, ac yn ennyn yr ymateb yma, trwy ei gweithredoedd ei hunan.

“Maen hi’n ail-greu Fietnam yn Syria, yn Irac, yn Afghanistan, yn Bolifia, yn Feniswela, yn Ciwba… oherwydd y ffordd y mae’n ymddwyn ac yn trin pobol.”

Ac wrth fynd i ymyrryd yn Syria, meddai wedyn, “maen nhw’n defnyddio ein meibion a’n plant ni i fynd i ladd plant pobol eraill”.

Roedd Aleida Guevara yn ymweld â Chymru yn rhan o ddathliadau pen-blwydd mudiad Cymru-Cuba yn 35 oed.