Roedd comiwnyddion Cymru yn “flaengar iawn” yn eu hagwedd tuag at yr iaith Gymraeg ac yn gefnogol i genedlaetholdeb Cymreig, yn ôl awdur llyfr ar y pwnc.

Er nad ydi hi’n naturiol cysylltu comiwnyddiaeth â chenedlaetholdeb, mae Douglas Jones o’r farn bod yna gysylltiad  clos rhwng y ddwy ochr – cysylltiad sydd â gwreiddiau dwfn hefyd.

Ganrif wedi Chwyldro 1917 yn Rwsia, mae’n dweud bod Karl Marx a Vladimir Lenin wedi tynnu sylw at bwysigrwydd mudiadau cenedlaethol, ac yn nodi bod “comiwnyddion yn becso am y genedl hefyd”.

“Un peth diddorol oedd bod nhw’n flaengar iawn gyda’r iaith Gymraeg,” meddai Douglas Jones wrth golwg360. “Bydden ni’n dadlau mai nhw oedd un o’r pleidiau cyntaf i gysylltu dirywiad yr iaith gyda dirywiad yr economi. Roedden nhw’n derbyn bod bygythiad i’r iaith.

“Mae yna un erthygl ddiddorol iawn lle maen nhw’n dweud – ‘Un peth yw cael sefydliadau fel y prif ysgolion, y llyfrgell genedlaethol ac ati. Ond os nad ydi pobol yn siarad Cymraeg yn eu cymunedau mi fydd hi’n marw’. Ac mae hynna’n gynnar iawn, tua’r 1940au.

“Erbyn diwedd y 1930au mae’r blaid yng Nghymru yn sicr yn cefnogi senedd i Gymru. Ac erbyn 1944 mae’r blaid yng ngwledydd Prydain yn gytûn dros hynny. O hynny ymlaen maen nhw’n cefnogi senedd o fewn rhyw sustem ffederal fel petai. Yn eithaf cynnar maen nhw hefyd yn cefnogi Cymru’n cael yr hawl i drethu.”

Cymru a Rwsia

O ran y cysylltiad hanesyddol rhwng comiwnyddion Cymru a Rwsia mae Douglas Jones yn tynnu sylw at  sawl Cymro bu’n ymweld â Rwsia wedi’r chwyldro comiwnyddol yno.

Ymysg y Cymry nodedig wnaeth ymweld â Rwsia yn ystod y cyfnod yma mae Lewis Jones – awdur We Live a Cwmardy – a William Hewlett o Abertyleri, sydd wedi’i gladdu yn y Kremlin.

“Mi oedd yna gysylltiadau,” meddai. “Roedd y blaid yn mynd allan i Rwsia yn eithaf aml, yn sicr pan oedd [y corff comiwnyddol rhyngwladol] y Comintern yn fyw – 1919 hyd at 1943 … Oedd pobol yn mynd allan i Rwsia fel rhan o ddirprwyaeth y Blaid Gomiwnyddol Brydeinig.”

Mae llyfr Douglas Jones The Communist Party of Great Britain and the National Question in Wales, 1920-1991 ar werth yn awr.