Llun: PA
Mae Boris Johnson wedi cael ei feirniadu am “gamddefnyddio” ffigurau swyddogol ar ôl iddo honni eto y byddai £350 miliwn ychwanegol yr wythnos yn cael ei wario ar y Gwasanaeth Iechyd (GIG) wedi Brexit.
Mae’r honiadau “camarweiniol” a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm eisoes wedi cael eu wfftio.
Mae Syr David Norgrove, cadeirydd yr Awdurdod Ystadegau yn y Deyrnas Unedig, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Tramor yn dweud ei fod wedi’i “synnu a’i siomi” ei fod wedi ail-adrodd yr honiadau mewn erthygl sy’n amlinellu ei weledigaeth ar gyfer dyfodol gwledydd Prydain y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd.
Dywedodd Syr David Norgrove bod y ffigwr yn “drysu’r” cyfraniadau gros a net y mae’r DU yn ei wneud i goffrau’r UE.
Nid dyma’r tro cyntaf mae’r Awdurdod wedi tynnu sylw at y mater.
Roedd y corff eisoes wedi rhybuddio Vote Leave bod angen “eglurder” ynglŷn â’r ffigwr am ei fod yn cyfeirio at gyfraniad blynyddol gros y DU yn unig ac nad oedd yn cymryd i ystyriaeth yr arian mae Prydain yn ei gael yn ôl gan yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd Boris Johnson wedi cyfeirio eto at y ffigurau mewn erthygl 4,000 o eiriau yn y Daily Telegraph yn son am ei weledigaeth wedi Brexit.
Ond mae llefarydd ar ran yr Ysgrifennydd Tramor wedi mynnu mai cwyno am y pennawd yn y papur newydd yr oedd Syr David Norgrove ac nid y geiriau yn yr erthygl.