Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau euibod yn bwriadu gwrthwynebu darn pwysig o ddeddfwriaeth gan San Steffan ar adael yr Undeb Ewropeaidd.

Nod y Ddeddf Ddiddymu yw dod â goruchafiaeth cyfraith yr Undeb Ewropeaidd i ben, ac i droi cyfreithiau’r Undeb Ewropeaidd yn rhai Prydeinig.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnal pleidlais ‘cynnig cydsyniad deddfwriaethol’ yn y Senedd, i ddangos os ydyn yn cyd-fynd â’r ddeddf neu beidio.

Yn nogfen y cynnig mae Llywodraeth Cymru yn nodi: “Ni fydd modd i Lywodraeth Cymru argymell y Cynulliad i roi eu cydsyniad i’r Bil yn ei ffurf bresennol.”

Bydd Aelodau Cynulliad yn cynnal pleidlais dros y cynnig cydsyniad deddfwriaethol’ ym mis Ionawr.

“Cipio pŵer”

Pasiodd y ddeddfwriaeth ei hail ddarlleniad yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Llun, er gwaethaf gwrthwynebiad gan y gwrthbleidiau.

Pryder nifer o wleidyddion yw y gallai Llywodraeth y Deyrnas Unedig gipio pwerau rhag y Llywodraethau datganoledig trwy’r mesur hwn.