David Davis, Ysgrifennydd Brexit (Llun: Steve Punter CCA2.0)
Fe fydd David Davis yn wynebu cwestiynau gan Aelodau Seneddol heddiw ynglŷn â’r trafodaethau Brexit dros yr haf wrth i’r Undeb Ewropeaidd honni nad oes cynnydd wedi cael ei wneud ar rai o’r materion pwysicaf.

Mae disgwyl i’r Ysgrifennydd Brexit wneud datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin i’w diweddaru am y trafodaethau i ddod i gytundeb ynglŷn â thelerau gadael yr Undeb Ewropeaidd, wrth i ASau ddychwelyd ar ôl y gwyliau haf.

Daw ei ddatganiad wedi i Downing Street gyhoeddi bod Prydain yn barod i “ddwysau’r” trafodaethau gyda’r Undeb Ewropeaidd. Mae adroddiadau’n awgrymu bod y Llywodraeth yn awyddus i sgrapio’r cyfarfodydd misol er mwyn caniatáu trafodaethau parhaus i gyflymu’r broses.

Fe fydd y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei drafod ddydd Iau ar ôl i  Aelodau Seneddol ddychwelyd i San Steffan.

“Newid agwedd”

Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones ddoe fod angen “newid agwedd” o ran yr hyn y mae’r setliad ddatganoli yn ei olygu.

Daw ei sylwadau yn dilyn cyfarfod â’r Ysgrifennydd Gwladol, Damian Green, yng Nghaerdydd ynghyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.

Roedden nhw’n trafod y Bil Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd a dywedodd llefarydd ar ran Carwyn Jones bod Llywodraeth Cymru am barhau i bwyso am “newid” i’r mesur hwnnw.