Stormont Llun: PA
Fe fydd Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon James Brokenshire yn cwrdd â’r pum brif blaid yn Stormont yn ddiweddarach mewn ymdrech i ail-ddechrau’r trafodaethau rhannu grym.

Mae disgwyl iddo gynnal trafodaethau gydag Unoliaethwyr Ulster a’r Unoliaethwyr  Democrataidd, yr SDLP, Alliance a Sinn Fein.

Cafodd y trafodaethau i geisio adfer y llywodraeth ddatganoledig ei gohirio dros yr haf.

Ymhlith y materion dan sylw yw amddiffyn yr iaith Wyddeleg.

Mae Sinn Fein wedi gwrthod cais gan y DUP i adfer y Cynulliad a datrys yr anghydfod dros faterion diwylliannol.