Emrys Williams, Cadeirydd Cyfeillion Amgueddfa Lloyd George (Llun Golwg360)
Fe fydd rhaid dod o hyd i £50,000 y flwyddyn i achub Amgueddfa Lloyd George ac fe fydd rhaid dod o hyd i hwnnw o fewn llai na dwy flynedd.

Dyna farn Cadeirydd Cyfeillion yr Amgueddfa wrth iddyn nhw greu cwmni i ddod yn berchnogion ar y fenter ymhen ychydig tros ddwy flynedd.

Mae ymwelwyr yn dal i ryfeddu bod Cyngor Sir Gwynedd am roi’r gorau i gynnal yr amgueddfa, yn ôl Emrys Williams, sy’n dweud y bydd angen chwilio am nawdd sylweddol mewn amser da cyn i’r trefniadau presennol yn dod i ben ym mis Ebrill 2020.

“Fydd rhaid i ni gael addewid o arian tua blwyddyn cyn hynny, pan fyddwn ni’n cymryd yr amgueddfa drosodd,” meddai, ac yntau yn aelod o’r Bwrdd newydd.

Addawol

Mae’r tymor ymwelwyr yma’n edrych yn addawol, meddai Emrys Williams, gyda chynnydd o tuag 20% ym mhris tocynnau a chynnydd yn nifer yr ymwelwyr.

Ar hyn o bryd Cyngor Sir Gwynedd yw perchnogion yr adeilad a nhw sy’n derbyn yr arian masnachol; mae’r Cyfeillion yn helpu i redeg yr amgueddfa a’r Cyngor yn cyfrannu £27,000 trwy ofalu am yr adeiladau a’r stad.

Roedd bygythiad i’r Amgueddfa gau ym mis Ebrill eleni nes i Lywodraeth Prydain ymyrryd gyda grant o £27,000 y flwyddyn – fe anogodd hynny’r cyngor sir i barhau gyda’u trefniant nhwthau.

Gove ac Osborne yn camu i’r bwlch

Yn ôl Emrys Williams, y gweinidog cabinet, Michael Gove, a oedd wedi perswadio Canghellor y Trysorlys, George Osborne i roi’r arian. Ar y pryd roedd yn aelod mainc gefn.

Erbyn hyn mae bwrdd wedi dod at ei gilydd ar gyfer creu’r cwmni newydd .