David Davies AS
Mae’n rhaid ystyried hawliau pawb wrth ystyried hawliau pobol drawsryweddol, yn ôl Aelod Seneddol Ceidwadol Mynwy, David Davies, yn ei golofn ym mhapur newydd The South Wales Argus.

Fe ddaw ei sylwadau wrth iddo ymateb i gynlluniau Gweinidog Cydraddoldeb San Steffan, Justine Greening i roi’r hawl i bobol newid eu rhyw heb ymyrraeth feddygol.

Byddai’r cynlluniau’n golygu addasu Deddf Cydnabodd Rhywedd 2004, ac fe fydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn yr hydref eleni.

Wrth gyfeirio at yr ymgynghoriad hwnnw, meddai David Davies yn ei golofn: “Dw i’n ofni y bydd hi’n amhosib mynegi’r pryder lleiaf ynghylch hyn heb gael fy nghyhuddo o lu o ‘isms’ – ond dw i’n mynd i drio.

“Mae hi’n anochel fod rhaid dangos dealltwriaeth a thosturi tuag at unrhyw un sydd wedi drysu ynghylch ei r(h)ywedd… Ni ddylem wahaniaethu yn eu herbyn nhw mewn unrhyw ffordd, ac ni ddylem oddef camdrin geiriol neu gorfforol yn eu herbyn nhw nac unrhyw un arall.

“Fodd bynnag, ni allwn ystyried hawliau pobol drawsryweddol heb ystyried hawliau pobol eraill.”

Pryderon

Prif bryder David Davies yw hawl pobol drawsryweddol i ddefnyddio ystafelloedd newid a thoiledau.

“Os yw dyn yn penderfynu cofrestru ei hun fel dynes, a ddylai ef/hi gael yr hawl i ddefnyddio toiledau, ystafelloedd newid, wardiau ysbyty i ferched a.y.b.? Byddai hyn yn amlwg yn cael effaith ar hawliau merched sy’n defnyddio’r cyfleusterau hynny,” meddai David Davies.

“Fe ddylai unrhyw un ag organau rhywiol dynion ddisgwyl gorfod defnyddio cyfleusterau i ddynion, pa rywedd bynnag maen nhw’n ystyried eu hunain.”