Mae Llywydd Cymdeithas y Llywodraethwyr Carchardai wedi beirniadu’r ffordd mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rheoli carchardai yng Nghymru a Lloegr.

Daw’r feirniadaeth ar ffurf llythyr agored yn sgil achosion diweddar o drais ac aflonyddwch mewn carchardai yn Hertfordshire ac Wiltshire.

Yn y llythyr mae’r Llywydd, Andrea Albutt, yn nodi bod yr aflonyddwch diweddar yn “achosi pryder mawr” ac yn nodi fod llywodraethwyr carchardai yn wynebu “straen annerbyniol.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynnu eu bod wedi ymrwymo i gynyddu lefelau staffio ond mae Andrea Albutt yn dadlau nad oes unrhyw newid “sylweddol” wedi bod.

Mae’r Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins, eisoes wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gynnal adolygiad o lefelau staffio carchardai yn dilyn “ffrwydrad” mewn carchar yng Nghaerdydd.

“Cyfundrefn sâl”

“Rydym ni’n gwybod bod carchardai mewn argyfwng a dw i’n defnyddio’r term yna yn fwriadol, oherwydd does dim modd disgrifio’r sefyllfa mewn unrhyw fodd arall,” meddai Andrea Albutt, “Mae’r ansefydlogrwydd yn amlwg yn gysylltiedig â chyfundrefn sâl.”

“Diwygio yw’r ateb i’n holl drallod, a byddai’n wych os mai dyna oedd y sefyllfa. Mae aelodau yn dweud wrthyf, ei bod wedi gweld dim byd sylweddol gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder hyd yma i leddfu’r baich.”

“Newidiadau angenrheidiol”

“Rydym yn ymwybodol bod ein carchardai yn wynebu sawl her, a dyna pam rydym ni wedi gweithredu i gynyddu niferoedd swyddogion carchardai,” meddai llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

“Bydd hyn yn helpu creu gwasanaeth arbennig a phroffesiynol, ac mi fydd yn sicrhau bod polisïau ac ymgyrchoedd yn cydweithio’n agos er mwyn darparu diwygiadau angenrheidiol.”