Dr Liam Fox a Boris Johnson (Llun: Anthony Devlin/PA Wire)
Dydy Cabinet Llywodraeth Prydain ddim wedi dod i gytundeb ynghylch masnachu’n rhydd am dair blynedd ar ôl Brexit, yn ôl yr Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol, Dr Liam Fox.

Ni fyddai’r fath gynllun yn cyd-fynd â chanlyniad y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd, meddai.

Dywedodd wrth bapur newydd y Sunday Times nad yw e “wedi bod yn rhan” o unrhyw drafodaethau o’r fath.

Daw ei sylwadau ar ôl i’r Canghellor Philip Hammond ddweud bod y Cabinet yn agored i ystyried cyfnod o dair blynedd o fasnachu’n rhydd ar ôl i Brydain adael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd y byddai trefn gofrestru mewn grym ar gyfer pobol sy’n dod o wledydd yr Undeb Ewropeaidd i weithio yng ngwledydd Prydain yn ystod y cyfnod o dair blynedd.

Dywedodd y byddai trefn o’r fath yn “synhwyrol” er mwyn gwybod pwy yn union sy’n gweithio yng ngwledydd Prydain.

‘Peryglus iawn’

Ond mae sylwadau Philip Hammond wedi cael eu beirniadu gan y cyn-weinidog Brexit, David Jones, sy’n dweud bod y cynlluniau’n “beryglus iawn”.

Fe gyhuddodd e’r Canghellor yn y Mail on Sunday o “weithredu” tra bod y Prif Weinidog Theresa May ar ei gwyliau, a bod ymddygiad o’r fath yn “anghwrtais iawn” ac yn “tanseilio’i hawdurdod”.

Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson hefyd wedi beirniadu’r Canghellor, ond dydy e ddim wedi ymateb yn gyhoeddus i’r cynlluniau eto.

Canmol Philip Hammond

Ond mae’r Aelod Seneddol Ceidwadol, Syr Nicholas Soames wedi canmol Philip Hammond, gan ddweud ei fod e “wedi adfer disgyblaeth” ymhlith y rheiny sydd “eisiau Brexit ar bob cyfri”.

Dywedodd fod gwleidyddion o’r fath “wedi atal yr hyn oedd yn dechrau dod yn frwydr mewn tafarn”.