Taoiseach newydd Iwerddon, Leo Varadkar
Mae adroddiadau bod Dulyn am i’r ffin rhwng Iwerddon a’r Deyrnas Unedig fod yn y môr rhwng y ddwy ynys.

Yn ôl papur newydd The Times, dyw Taoiseach newydd Iwerddon, Leo Varadkar, heb ei argyhoeddi gan gynlluniau Llywodraeth San Steffan i gyflwyno ffin dechnegol ar y tir rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth wedi Brexit.

Mae’r ffin rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth yn fater allweddol sydd angen eu datrys gan y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd cyn i drafodaethau ddechrau ar fargen fasnach newydd.

Roedd gweinidogion Prydain wedi cynnig mesurau fel camerâu cadw golwg er mwyn galluogi bod pobol yn rhydd i symud rhwng gogledd a de’r ynys.

Fodd bynnag, mae ffynonellau wedi dweud wrth The Times bod Leo Varadkar yn meddwl y gallai’r cynlluniau hyn roi’r broses heddwch yn Iwerddon mewn perygl ac y gallai gyfyngu symudiadau pobol rhwng y ddwy wlad.

Dywed ei fod am symud tollau a gwiriadau mewnfudo o’r ffin ar y tir i borthladdoedd a meysydd awyr – gan greu ffin newydd ym Môr Iwerddon.

Mae’r Blaid Unoliaethol Democrataidd [DUP] wedi gwrthod yr awgrym o greu ffin o’r fath.

Diwedd ar symud yn rhydd

Ddoe, fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, y bydd yn comisiynu’r Pwyllgor Cynghorol ar Fewnfudo i gynnal dadansoddiad manwl ar rôl dinasyddion o Ewrop yn economi a chymdeithas gwledydd Prydain.

Fe amlinellodd mesurau trosiannol ar fewnfudo ar gyfer dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd ar ôl i Brydain adael ym mis Mawrth 2019.

Dywed y bydd rhyddid pobol i symud yn dod i ben ar ôl i Brexit ddigwydd ond y bydd mewnfudo rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn parhau.