Fel awdur asesiad annibynnol ar effaith Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn ar y Gymraeg, Huw Prys Jones sy’n trafod y dewis sy’n wynebu cynghorwyr Gwynedd ddydd Gwener nesaf

Pan ofynnodd cynrychiolwyr partneriaieth o fudiadau iaith yng Ngwynedd imi baratoi asesiad o effaith y Cynllun Datblygu Lleol ar y Gymraeg, y peth cyntaf a bwysleisiais wrthynt oedd y byddai’n adroddiad cwbl wrthrychol. Fyddwn i ddim wedi cytuno i gynhyrchu deunydd i gefnogi propaganda unllygeidiog yn erbyn codi unrhyw dai newydd, er enghraifft. Cytunodd y mudiadau – sef Dyfodol i’r Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Cylch yr Iaith a Chanolfan Hanes Uwchgwyrfai – ar unwaith â hyn, gan mai lles y Gymraeg yn ei chadarnleoedd oedd eu blaenoriaeth hwythau hefyd.

Roedd hyn fis Chwefror y llynedd, pan oedd y mudiadau ynghyd â rhai cynghorwyr, yn galw ar Gyngor Gwynedd i gomisiynu asesiad annibynnol o’r fath eu hunain. Oedd, roedd swyddogion yr uned polisi cynllunio ar y cyd (o gynghorau Gwynedd a Môn) wedi gwneud rhyw fath o asesiad ieithyddol eu hunain, ond roedd hwn yn amlwg yn ddim byd ond ymgais dila i gyfiawnhau’r Cynllun Datblygu ar ôl ei wneud. Yn wir, roedd yr asesiad hwnnw mor gwbl druenus nes imi gysylltu â deilydd presennol y portffolio cynllunio yng Ngwynedd tra oedd y trafodaethau rhyngof a’r mudiadau yn mynd ymlaen. Gan geisio esbonio diffygion difrifol yr ‘asesiad’ hwnnw, cynigiais baratoi asesiad trylwyr, gwrthrychol ac annibynnol am bris hynod resymol i’r cyngor, asesiad y gallwn ei sicrhau hefyd y byddai gan yr ymgyrchwyr iaith hyder ynddo. Dw i’n dal i gredu y gallai cam o’r fath fod wedi gallu cyfrannu’n helaeth at osgoi’r drwgdeimlad a’r ddrwgdybiaeth sydd ymysg cynghorwyr Gwynedd heddiw.

Yn wyneb diffyg unrhyw ymateb gan y Cyngor, aeth y mudiadau ymlaen i gomisiynu’r asesiad gen i. Mae’r adroddiad a baratoais i’w weld yma.

Mae’n ffrwyth wythnosau o waith a dw i’n ddyledus i’r mudiadau am y cyfle i’w wneud. Nid ar chwarae bach y deuthum i’r casgliad fod y Cynllun yn darparu ar gyfer nifer gormodol o dai ychwaith. Ar y llaw arall, mae hyn yn eithaf amlwg hefyd.

O edrych ar dueddiadau demograffig a ieithyddol y ddwy sir dros y degawdau diwethaf y patrwm a welwn ydi lleihad graddol yn y boblogaeth frodorol Gymraeg a chynnydd mewn mewnfudwyr di-Gymraeg, yn bennaf o’r tu allan i Gymru. Mae hyn wrth reswm yn arwain at ostyngiad yn y canrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn y ddwy sir, rhywbeth sy’n cael ei gydnabod yn asesiad ieithyddol y Cyngor fel mae’n digwydd, wrth nodi “bod sgiliau Cymraeg rhai sydd wedi symud o du allan i Gymru yn wannach”.

Heb unrhyw dystiolaeth fod rhagolygon o newid yn y tueddiad hwn, mae’n rhesymegol barnu bod codi mwy o dai nag sydd eu hangen yn fwy tebygol o fod yn niweidiol yn hytrach nag ydyn nhw o fod yn llesol i’r Gymraeg.

Nid darogan gwae

Nid adroddiad sy’n darogan gwae sydd gen i, ond un sy’n nodi’n syml bod y nifer o dai newydd y bwriedir yn debygol o lesteirio ymdrechion rhagorol adrannau eraill o’r Cyngor i godi’r Gymraeg yn y sir. Gan dderbyn mai un ffactor o blith llawer ydi tai newydd, dw i’n cynnig amcangyfrif ceidwadol bod y nifer yn y cynllun, 7,902, ar sail y tueddiadau demograffig presennol, yn debygol o arwaith at leihad o tua 2 bwynt canran yn y cyfrannau sy’n gallu siarad Cymraeg yn y ddwy sir.  Mae hyn yn fwy difrifol nag mae’n ymddangos ar yr olwg gyntaf gan y byddai ar ben unrhyw ostyniadau a allai ddigwydd am resymau eraill.

Mae’n waeth byth wrth ei ystyried yng nghyd-destun amcanion eraill y Cyngor. Un o’r amcanion a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol er enghraifft yw cynyddu’r nifer o gymunedau yn y ddwy sir mae dros 70% yn gallu siarad Cymraeg. Hefyd, mae sicrhau cynnydd o 5 pwynt canran yn y gyfran sy’n gallu siarad Cymraeg drwy’r sir yn un o amcanion strategol Cyngor Gwynedd. Gydag amcanion uchelgeisiol fel hyn, gwallgofrwydd fyddai caniatáu unrhyw fesurau a fyddai’n eu llesteirio.

Trwy baratoi adroddiad gwrthrychol o’r fath, fy ngobaith oedd y byddai’n helpu’r Cyngor wrth bwyso a mesur a phenderfynu ar y ffordd ymlaen. Er fy mod i’n gwbl sicr fod fy asesiad i ar dir cadarn, mi fyddwn i’n dal yn barod i wrando ar ddadleuon deallus sut y byddai codi cynifer o dai yn fuddiol i’r Gymraeg. Mae’n arwyddocaol nad oes neb o’r naill gyngor na’r llall, wedi ceisio gwneud achos o’r fath. Yn wir, yn ôl fy ffynonellau, unwaith y daw cwestiynau anodd, mae’r rhai sy’n gyfrifol am y Cynllun yn pwyso’n ôl ar yr amddifyniad mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol amdano ac nad eu dewis nhw ydoedd.

Gor-eiddgarwch i gydymffurfio

Mae paratoi’r asesiad a’r hyn sydd wedi digwydd wedyn wedi bod yn agoriad llygad i mi o ran sut mae’r drefn gynllunio yn digwydd yng Nghymru. Mi fyddwn i’n derbyn yn llwyr mai polisi Llywodraeth Cymru yn hytrach na chynllunwyr Gwynedd a Môn sy’n bennaf gyfrifol am hynny. Fodd bynnag, mae’r hyn sy’n ymddangos fel eu gor-eiddgarwch nhw i gydymffurfio â phob manylyn polisi wedi eu rhoi nhwythau hefyd yn agored i feirniadaeth.

Celwydd noeth ydi dweud bod y drefn o lunio cynlluniau datblygu lleol yn un dryloyw a bod cyfle digonol i ymgynghori. Mae hi’n dywyllwch dudew drwyddi draw. Oes, mae cyfnodau byr o ychydig wythnosau ar y tro o ‘ymgynghori’ â’r cyhoedd, ond anaml y bydd unrhyw sylw’n cael eu cymryd o’r hyn a ddywedir. Dydi cynghorwyr cyffredin – rhai nad ydyn nhw’n aelodau cabinet – ddim wedi cael unrhyw gyfle i gyfrannu mewn ffordd ystyrlon chwaith. Gwn yn dda am gynghorwyr sydd wedi ymdrechu’n barhaus i gael trafodaethau synhwyrol am y cyfansymiau o dai, ond eu bod yn cael yr un faint o effaith â tharo pen yn erbyn wal. Yr unig bleidais y byddan nhw’n ei gael ar y cynllun ydi’r un ynghylch ei fabwysiadu neu beidio ddydd Gwener nesaf.

Nodwedd arall o’r tywyllwch dudew yma ydi boddi cynghorwyr ac aelodau o’r cyhoedd efo mynydd o ddogfennau hirwyntog, aneglur a gwael eu mynegiant. Mae unrhyw ymgais i geisio gwybodaeth yn golygu oriau o chwilota ac o gael eich croesgyfeirio ar siwrnai seithug o un ddogfen i’r llall. Ar agenda Cyngor Gwynedd ar gyfer y cyfarfod ddydd Gwener, er enghraifft, caiff y cynghorwyr eu cyfeirio at ddim llai na 58 o ddogfennau atodol yn ogystal â’r Cynllun Datblygu Lleol ei hun.

Yr unig ffordd y gall cynghorwyr sy’n anhapus ynglyn â chaniatáu codi cynifer o dai ddangos eu hanfodlonrwydd ydi pleidleisio yn erbyn y Cynllun yn ei gyfanrwydd. Mae cabinet y cyngor a’r uchel swyddogion yn rhybuddio yn erbyn peryglon gwneud hyn, a does neb yn awgrymu y dylai gwrthod mabwysiadu’r cynllun fod yn gam i’w gymryd ar chwarae bach.

Ond y ffaith syml amdani ydi na ddylai pethau fod wedi dod i hyn. Pe bai arweinwyr y cyngor a’r uchel swyddogion wedi bod yn fwy agored a hyblyg a rhoi cyfle ac ystyriaeth deg i’r rhai oedd ag amheuon, mae’n sicr y byddai cyfaddawd a chytgord wedi bod yn bosibl.

Bygythiad – a chyfle – i Blaid Cymru

Drwy fod mor ben-galed mae arweinwyr ac uchel swyddogion y ddau gyngor wedi torri twll nad yw’n hawdd i Blaid Cymru ddod allan ohono.

Mae hi bellach yn y sefyllfa gwbl wrthun o apelio yn erbyn penderfyniad i godi 366 o dai ym Mangor ar y sail y byddai’n ergyd i’r Gymraeg yn y ddinas, tra ar yr un pryd yn gofyn i’w chynghorwyr gymeradwyo cynllun i godi bron i fil arall o dai yno. Fe allan nhw fod yn sicr y bydd y gweinidog Lesley Griffiths yn chwerthin am eu pennau os bydd eu cynghorwyr yn cydymffurfio â’r drefn.

Mi fyddan nhw hefyd yn tanseilio ymdrechion cynghorwyr Plaid Cymru mewn mannau eraill o Gymru, fel ym Mro Morgannwg, Caerdydd, Caerffili a Wrecsam, sydd wedi bod yn flaenllaw yn eu gwrthwynebiad i godi niferoedd gormodol o dai yn eu hardaloedd nhw. Anodd dychmygu sut y gallai cynghorwyr Gwynedd a Môn – lle mae llawer mwy o reswm dros wrthwynebu gor-ddatbygu – gyfiawnhau cefnogi cynlluniau o’r fath.

Mae’r Aelodau Cynulliad lleol Sian Gwenllian a Rhun ap Iorwerth wedi ymgyrchu’n ddyfal dros gael ysgol feddygol i Fangor. Er cryfed eu hachos, mae’r Llywodraeth Lafur wedi gwrthod yn llwyr. Gallai gweld eu cynghorwyr yn gwneud safiad ac achosi tipyn o niwsans i’r llywodraeth fod yn arf digon cyfleus iddyn nhw. Ar y llaw arall, mwy anodd fyth fyddai iddyn nhw ymgyrchu dros chwarae teg i’r gogledd-orllewin os bydd eu cynghorau’n mynnu bod yn llawforwyn ufudd i’r blaid Lafur.

Mi fyddai rhywun yn gobeithio gweld cynghorwyr o bob plaid yn rhoi dyfodol y Gymraeg o flaen unrhyw ystyriaethau pleidiol, a chalonogol yw gweld cymaint ohonyn nhw’n barod i wneud hyn.

Ond hyd yn oed o edrych ar y mater mewn termau gwleidyddol pur, dylai fod yn weddol amlwg pa ddewis sy’n debygol o arwain at y lleiaf o ddau ddrwg i ragolygon Plaid Cymru.

Mae’n wir y gallai gwrthod y Cynllun achosi rhywfaint o anhrefn, ond byddai ei fabwysiadu’n arwain at ddinistrio holl hygrededd Plaid Cymru gan godi cwestiynau difrifol am ei diben.

Mae cyfle gan gynghorwyr Gwynedd ddydd Gwener i wneud safiad dros ddemocratiaeth a thryloywder yn y ffordd y caiff Cymru ei llywodraethu. Byddai’n anfaddeuol iddyn nhw wrthod cyfle o’r fath.