Nid lle Llywodraeth Prydain yw ymyrryd yn achos y babi Charlie Gard, sy’n dioddef o salwch terfynol.

Dyna neges Ysgrifennydd Cyfiawnder San Steffan, David Liddington wrth iddo fe gydymdeimlo â’r barnwyr sydd ynghlwm wrth yr achos.

Mae rhieni Charlie ynghlwm wrth frwydr gyfreithiol â meddygon ynghylch triniaeth eu mab 11 mis oed.

Mae dau aelod o gyngres yr Unol Daleithiau wedi dweud y byddan nhw’n cyflwyno deddfwriaeth er mwyn rhoi statws trigolion i’r teulu er mwyn iddo fe dderbyn triniaeth arbrofol yn y wlad.

Mae mam Charlie, Connie Yates wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i gefnogi eu hachos, gan fynnu nad yw eu brwydr ar ben.

Fe fydd y teulu’n ymuno â phrotest y tu allan i ysbyty plant Great Ormond Street yn Llundain heddiw.

‘Dim rhan i’w chwarae’

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Liddington wrth raglen Ridge on Sunday ar Sky News: “Mae’n briodol bod barnwyr yn dehongli’r gyfraith yn annibynnol a heb angerdd.

“Fel gweinidogion ac fel Llywodraeth, does gennym ni ddim rhan i’w chwarae yn achos Charlie Gard, fel y byddai’n wir am unrhyw achos llys arall.

“Dw i ddim yn eiddigeddu wrth farnwyr sy’n gorfod gwneud penderfyniadau ynghylch hyn.

“Mae’n rhaid eu bod nhw dan bwysau – emosiynol fwy na thebyg, ond dan broffesiynoldeb barnwrol, mewn achos emosiynol, chwithig iddyn nhw orfod ei benderfynu.

“Ond maen nhw’n annibynnol, maen nhw’n gwybod mai eu dyletswydd nhw yw penderfynu ar yr achos ar sail yr hyn maen nhw’n ystyried sydd yn briodol i Charlie ei hun.”

Yr achos

Mae rhieni Charlie Gard eisiau mynd â’u plentyn i’r Unol Daleithiau i dderbyn triniaeth niwcleosid.

Ond penderfynodd llys eu bod nhw’n cytuno â barn meddygon, sef na fyddai’r driniaeth yn gwella ansawdd ei fywyd.

Mae ei rieni eisoes wedi cael cefnogaeth gan Arlywydd yr Unol Daleithiau Donald Trump a’r Pab, a bellach mae gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau wedi ymuno â’u brwydr.

Ond yn dilyn dyfarniad yr Uchel Lys, ni all ysbyty Great Ormond Street ei drosglwyddo i ysbyty arall yn unman er mwyn derbyn y driniaeth a allai achub ei fywyd.

Bydd gwrandawiad pellach yn yr Uchel Lys ddydd Llun ar sail tystiolaeth newydd gan arbenigwyr yn ysbyty plant y Fatican.

Fe fydd deiseb yn dwyn dros 350,000 o enwau yn cael ei chyflwyno ddydd Sul yn galw ar feddygon i roi’r hawl i’r teulu fynd â’u plentyn i’r Unol Daleithiau.

Mae ei salwch yn golygu nad yw e’n gallu anadlu heb gymorth peiriant, ac mae’n effeithio ar gelloedd y corff.

Mae’r teulu wedi colli nifer o achosion llys blaenorol yn yr Uchel Lys, y Llys Apêl a’r Goruchaf Lys, ac mae’r Llys Hawliau Dynol yn Ewrop wedi gwrthod cais i gynnal achos yno.