Justine Greening (Llun: PA)
Gall pobol o’r gymuned LGBT helpu i drechu rhagfarn yn eu herbyn drwy rannu eu profiadau dros benwythnos Pride, yn ôl Gweinidog Cydraddoldeb San Steffan.
Gall rhannu profiadau helpu pobol eraill i ddarganfod eu lleisiau nhw hefyd, yn ôl Justine Greening, sydd mewn perthynas o’r un rhyw.
Mae’n hanner can mlynedd eleni ers dad-droseddoli gwrywgydiaeth yng ngwledydd Prydain.
Mewn erthygl yn y Daily Telegraph, dywedodd: “Yn aml, ni ein hunain a’n straeon all gael yr effaith fwyaf wrth wthio am gydraddoldeb.
“Drwy rannu’r profiadau hynny a bod yn driw i ni’n hunain, gallwn ni ei gwneud hi gymaint yn haws i’r person nesaf deimlo’n hyderus wrth wneud yr un fath.”
Aelodau Seneddol o’r gymuned LGBT
Erbyn hyn, mae 45 o bobol o’r gymuned LGBT yn aelodau seneddol.
Ac mae dau arweinydd blaenllaw yn yr Alban, Ruth Davidson a Kezia Dugdale yn hoyw.
Cyhoeddodd Justine Greening yn ystod dathliadau Pride y llynedd ei bod hi mewn perthynas â menyw.
Dywedodd hi ddydd Sadwrn fod “tipyn o ffordd i fynd” cyn y bydd cydraddoldeb wedi’i gyflawni.
- Bydd dathliadau Pride yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd o Awst 25-27.