Mae John Bercow wedi gwrthod caniatau cais gan blaid yr SNP am ddadl frys yn Senedd San Steffan ar ddêl y Llywodraeth gyda phlaid y DUP.

Mae Llefarydd Ty’r Cyffredin wedi dweud ei fod wedi gwrando’n ofalus ar gyflwyniadau gan Pete Wishart, ond nad yw wedi’i argyhoeddi y dylid trafod y mater dan y drefn o gynnal dadl frys.

Mae llywodraeth leiafrifol Theresa May wedi cael ei beirniadu am ddod i gytundeb â phlaid unoliaethol y DUP, sy’n golygu y bydd deg Aelod Seneddol y blaid honno o Ogledd Iwerddon yn fotio gyda’r Ceidwadwyr yn San Steffan ar Araith y Frenhines, y Gyllideb, y ddeddfwriaeth yn ymwneud â Brexit, a materion diogelwch ‘cenedlaethol’.

O roi deg aelod y DUP yn yr un gwely â 317 o Aelodau Seneddol y Ceidwadwyr, mae gan Theresa May fwyafrif yn Nhy’r Cyffredin – rhywbeth yr oedd wedi’i golli wedi iddi alw etholiad brys ar Fehefin 8.