Ffoaduriaid o Syria Llun: PA
Fe fydd Aelodau Cynulliad yn trafod adroddiad ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru yfory, ac ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion.

Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau sydd yn gyfrifol am yr adroddiad sydd yn cynnig 19 o argymhellion.

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn wyth o’r argymhellion yn ddiamod, 10 “mewn egwyddor” ac wedi gwrthod un argymhelliad.

Ymysg yr argymhellion mae dau i wella cyfleusterau llety lloches i ffoaduriaid gydag un yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod landlordiaid ceiswyr lloches yn “rhan o gynllun cofrestru.”

Mae’r Pwyllgor hefyd am weld Llywodraeth Cymru yn gofalu am wasanaeth iechyd meddyliol i blant â thrawma sydd ar eu pen eu hunain, ac yn darparu gwybodaeth iechyd a chyfreithiol “digonol” i ffoaduriaid.

Mae argymhelliad am gynllun trafnidiaeth ratach i ffoaduriaid eisoes wedi cael ei wrthod oherwydd byddai’r fath gynllun yn galw am “newid deddfwriaethol” yn ôl Llywodraeth Cymru.

“Eglurder pellach”

“Mae’r Pwyllgor yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru – sydd yn bositif ar y cyfan – i’n hymchwiliad ynglŷn â’r cymorth sydd yn cael ei ddarparu i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffiths.

“Bydd y drafodaeth am adroddiad y pwyllgor ac ymateb y Llywodraeth, yn rhoi cyfle i ni gael eglurder pellach ynglŷn ag ambell fater.”