Fe fydd y rownd gyntaf o drafodaethau Brexit yn dechrau ddydd Llun nesaf.

Fe ddaeth datganiad ar y cyd gan yr Ysgrifennydd Brexit. David Davis a phrif drafodwr Comisiwn Ewrop, Michel Barnier, yn dilyn cyfarofod ym Mrwsel ddydd Iau.

Mae’r datganiad byr ac i’r pwynt yn dweud fod y ddau yn gytûn y bydd “trafodaethau Erthygl 50 yn dechrau ddydd Llun, Mehefin 19”.