Mae arweinydd Ukip yn yr Alban David Coburn wedi cyhoeddi y bydd yn ymgeisio am arweinyddiaeth y blaid yn dilyn ymddiswyddiad Paul Nuttall.

Ond fe awgrymodd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd y byddai’n camu o’r neilltu petai’r cyn-arweinydd Nigel Farage yn ymgeisio.

Fe ymddiswyddodd Paul Nuttall fel arweinydd UKIP wedi i’r blaid fethu ag ennill yr un sedd yn San Steffan. Roedd  Paul Nuttall hefyd wedi methu ag ennill sedd Boston a Skegness yn Swydd Lincoln.

Steve Crowther yw arweinydd y blaid dros dro.