Arlene Foster, arweinydd y DUP (Llun: PA)
Mae’r Ceidwadwyr wedi amlinellu cytundeb gyda’r DUP er mwyn ffurfio llywodraeth yn dilyn trafodaethau rhwng y ddwy blaid ddoe.

Ond dydyn nhw ddim wedi dod i gytundeb pendant eto ynghylch sut fyddan nhw’n cydweithio o fewn y llywodraeth.

Mae’r Ceidwadwyr wyth aelod seneddol yn brin o fwyafrif, ac fe fydd rhaid iddyn nhw ddibynnu ar gefnogaeth y blaid Wyddelig.

Y gred ar y dechrau oedd fod yna gytundeb ‘hyder’ yn ei le, ac y byddai’r Cabinet yn rhoi eu sêl bendith ddydd Llun.

Ond mae disgwyl i’r trafodaethau barhau yr wythnos hon.

Gwrthwynebiad

Nid pawb sydd yn fodlon ar y cytundeb chwaith, ac mae Jeremy Corbyn yn dal i fynnu bod modd iddo yntau geisio ffurfio llywodraeth.

Ac yn ôl adroddiadau, mae’r Gweinidog Tramor Boris Johnson yn barod i gamu i’r adwy a herio Theresa May am arweinyddiaeth y blaid.

Ond mae e wedi gwadu’r honiadau.

Beth fyddai pleidlais hyder?

Byddai pleidlais hyder yn golygu bod y DUP yn cefnogi’r llywodraeth yn y Gyllideb a chynigion o hyder, ond fe allai hefyd olygu cefnogi’r Ceidwadwyr fesul pleidlais.

Dywedodd y DUP mewn datganiad fod y cytundeb yn cyd-fynd â gweledigaeth arweinydd y blaid, Arlene Foster wrth iddi geisio sicrhau “sefydlogrwydd i’r genedl”.

Dywedodd y blaid fod y trafodaethau wedi bod yn “bositif”.

Ond yn fuan wedyn, cadarnhaodd llefarydd ar ran Stryd Downing nad oedd cytundeb yn ei le yn derfynol, ac y byddai’r trafodaethau’n parhau.

Mae disgwyl i Theresa May ffurfio’i llywodraeth erbyn Mehefin 19.